Skip to content
Mae Llywodraeth Cymru, ac ers mis Awst 2024 Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil), wedi cefnogi darparwyr ôl-16 yng Nghymru i ddefnyddio'r gwasanaeth mewnwelediadau profiad digidol fel rhan o'u fframwaith strategol Digidol 2030.

Mae arolygon mewnwelediadau profiad digidol Jisc yn darparu data pwerus ar sut mae eich dysgwyr, staff addysgu a staff gwasanaethau proffesiynol yn defnyddio technoleg, beth sy'n gwneud gwahaniaeth a lle y gellir gwneud gwelliannau – yn arbennig o bwysig yn yr hinsawdd bresennol.

Rydym hefyd wedi sicrhau bod yr arolygon yn mapio i fframwaith Digidol 2030, gan roi tystiolaeth i chi o'ch cynnydd yn erbyn y fframwaith.

Cynhaliwyd pedwar cylch o'r arolygon dros y blynyddoedd canlynol (y mwyaf diweddar yn gyntaf):

  • 2024/25
  • 2022/23
  • 2020/21
  • 2018/19

Mae'r adroddiadau crynodeb ac allbynnau'r arolwg ar gael isod.

Adroddiadau o 2025

Cwblhaodd 2,903 o ddysgwyr, 727 o staff addysgu a 672 o staff gwasanaethau proffesiynol o addysg bellach, darpariaeth prentisiaethau a darparwyr dysgu oedolion a chymunedol yr arolygon, gan ddarparu tystiolaeth gadarn i fesur cynnydd yn erbyn Digidol 2030.

Bydd ein hadroddiadau (wedi'u mapio i feysydd amcanion Digidol 2030) yn eich helpu i gymharu canfyddiadau eich sefydliad yn erbyn rhai o'ch sector. Byddwn hefyd yn gweithio gyda chi i helpu i nodi a blaenoriaethu unrhyw bwyntiau gweithredu a nodwyd. Cysylltwch â'ch rheolwr perthynas am ragor o wybodaeth.

Digidol 2030: fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol ôl-16 yng Nghymru

Er mwyn cefnogi'r sector addysg ôl-orfodol a hyfforddi, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Digidol 2030 fel fframwaith strategol i egluro ei gweledigaeth, nodau ac amcanion cyffredin ar gyfer dysgu digidol ôl-16 dros y degawd nesaf.

Gallwch ddarllen y fframwaith strategol a'r canllawiau gweithredu'n llawn:

Mae ein canllaw ar-lein Digidol 2030 yn amlinellu nodau ac amcanion fframwaith Digidol 2030 ac yn dangos sut y gall technolegau digidol gynorthwyo cyflenwi effeithiol drwy archwilio amrywiol rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector ôl-16.

Cysylltwch:

Bydd y gwasanaeth mewnwelediadau profiad digidol yn cau ar 31 Gorffennaf 2026. Cysylltwch â'ch rheolwr perthynas os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod eich anghenion.