Skip to content
Fel rhan o'i fframwaith strategol Digidol 2030 mae Llywodraeth Cymru'n cynorthwyo darparwyr ôl-16 yng Nghymru i ddefnyddio'r gwasanaeth mewnwelediad profiad digidol.

Adroddiadau o 2023

Cwblhaodd 5,544 o ddysgwyr, 1,109 staff addysgu a 786 o staff gwasanaethau proffesiynol o addysg bellach, dysgu yn y gwaith a dysgu oedolion a chymunedol yr arolygon, gan ddarparu tystiolaeth gadarn i fesur cynnydd yn erbyn Digital 2030.

Bydd ein hadroddiadau (wedi'u mapio yn erbyn nodau Digital 2030) a phecynnau gwybodaeth (wedi'u mapio i feysydd gwrthrychol Digital 2030) yn eich helpu i gymharu'ch canfyddiadau sefydliadol â'ch sector. Byddwn hefyd yn gweithio gyda chi i helpu i nodi a blaenoriaethu unrhyw bwyntiau gweithredu a nodwyd. Cysylltwch â'ch rheolwr cyfrif am ragor o wybodaeth.

Digidol 2030: fframwaith strategol ar gyfer dysgu digidol ôl-16 yng Nghymru

Er mwyn cefnogi'r sector addysg ôl-orfodol a hyfforddi, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Digidol 2030 fel fframwaith strategol i egluro ei gweledigaeth, nodau ac amcanion cyffredin ar gyfer dysgu digidol ôl-16 dros y degawd nesaf.

Gallwch ddarllen y fframwaith strategol a'r canllawiau gweithredu'n llawn:

Mae ein canllaw ar-lein Digidol 2030 yn amlinellu nodau ac amcanion fframwaith Digidol 2030 ac yn dangos sut y gall technolegau digidol gynorthwyo cyflenwi effeithiol drwy archwilio amrywiol rolau a chyfrifoldebau ar draws y sector ôl-16.

Dechrau arni

Beth sydd angen i fy sefydliad ei wneud i gymryd rhan?

Os ydych chi'n ddarparwr addysg bellach yng Nghymru (AB), dysgu oedolion a dysgu yn y gymuned (ACL), neu’n ddarparwr dysgu seiliedig ar waith (WBL), cysylltwch â'ch rheolwr cyfrif neu anfonwch e-bost wales@jisc.ac.uk i roi gwybod i ni eich bod yn dymuno cymryd rhan.

Byddwn wedyn yn eich ffonio i drafod eich opsiynau ac i egluro’r gefnogaeth sydd ar gael i chi.

Pa bryd mae'r arolygon yn agor ac yn cau?

Bydd arolygon 2022/23 ar agor mis Hydref 2022, a byddant yn cau diwedd mis Mawrth 2023.

Bydd yr adroddiadau terfynol ar

Gallwn ddarparu arweiniad helaeth ar redeg y gwasanaeth mewnwelediad profiad digidol (ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd). Gweler ein tudalennau cyngor ac arweiniad.

Hefyd gallwn ddarparu templedi ar fformat Word y gellir eu golygu i'ch helpu i hyrwyddo'r arolygon i'ch myfyrwyr a'ch staff (fersiynau Cymraeg a Saesneg ar gael). Gallwch lawrlwytho’r rhain o'n tudalen adnoddau.

Nodwch: er mwyn ychwanegu eich logo eich hun, cliciwch ar y lle sydd wedi'i farcio â logo a dewis dileu. Yna gallwch ychwanegu eich logo eich hun a newid ei faint i gyd-fynd, gan ddewis yr opsiwn fformatio/lapio testun 'in front of text' i ganiatáu i chi ei symud i'r lle priodol.

Angen help?

Cysylltwch os oes gennych chi unrhyw ymholiadau: